Ymateb deddfwriaethol Gweinidogion Cymru i bandemig y coronafeirws – Adroddiad i Senedd Cymru
Cefndir
Mae'r adroddiad hwn yn ymwneud â’r cyfnod rhwng 1/09/2021 a 31/03/2022 ac mae'n cynnwys yr holl is-ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â’r coronafeirws a wnaed gan Weinidogion Cymru neu ar eu rhan yn ystod y cyfnod hwn, nid dim ond deddfwriaeth sy'n deillio o Ddeddf y Coronafeirws 2020 ('Deddf 2020’).
Pasiwyd Deddf 2020 gan Senedd y DU ym mis Mawrth 2020 ac roedd yn darparu pwerau ychwanegol i Lywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig i ymateb i bandemig Covid-19. Mae'r mesurau yn Neddf 2020 yn perthyn yn bennaf i bum categori:
1. Cynyddu'r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol sydd ar gael – er enghraifft, drwy ganiatáu cofrestru staff a gweithwyr cymdeithasol addas â’r GIG dros dro, gan ganiatáu i staff sydd wedi ymddeol sydd â'r sgiliau cywir ddychwelyd i'r GIG heb i hynny gael effaith negyddol ar eu pensiwn a darparu yswiriant indemniad ychwanegol i weithwyr allweddol yn ôl yr angen.
2. Lleddfu’r baich ar staff rheng flaen ac ymateb iddo – er enghraifft, drwy leihau nifer y tasgau gweinyddol y mae'n rhaid iddynt eu cyflawni, gan alluogi awdurdodau lleol i roi’r flaenoriaeth i ofalu am bobl sydd â'r anghenion mwyaf dybryd, a chaniatáu i weithwyr allweddol gyflawni mwy o dasgau o bell a chyda llai o waith papur.
3. Cyfyngu ar y feirws a’i arafu – drwy roi pwerau i Swyddogion Iechyd y Cyhoedd helpu i reoli lledaeniad coronafeirws yn y DU ynghyd â phwerau i gyfyngu ar ddigwyddiadau a chynulliadau.
4. Trin yr ymadawedig â pharch ac urddas – drwy alluogi'r system rheoli marwolaethau i ddelio â'r galw cynyddol posibl am ei gwasanaethau.
5. Cefnogi pobl– er enghraifft, drwy ganiatáu i unigolion dderbyn Tâl Salwch Statudol, a thrwy helpu busnesau, er enghraifft drwy ddarparu pwerau a fydd yn sicrhau bod llywodraethau'r DU yn gallu helpu’r diwydiant bwyd i gynnal cyflenwadau.
Roedd y darpariaethau yn Neddf 2020 yn deillio o waith sylweddol a chydweithredol rhwng y pedair gwlad, ac maent yn ymwneud ag ystod o faterion, gan gynnwys pwerau penodol i Gymru i’w harfer gan Weinidogion Cymru.
Roedd Deddf 2020, fel y’i drafftiwyd yn wreiddiol, i fod i ddod i ben ddwy flynedd ar ôl iddi gael ei phasio, felly 25 Mawrth 2022. Mae'n ofynnol i Lywodraeth y DU adolygu’r darpariaethau sydd heb eu datganoli yn Neddf 2020 bob chwe mis ac mae Deddf 2020 yn darparu mecanwaith sy'n galluogi dod â darpariaethau i ben yn gynharach na’r dyddiad dod i ben arfaethedig o 2 flynedd neu’n galluogi eu hestyn y tu hwnt i'r terfyn 2 flynedd arfaethedig yn ôl yr angen. O ran darpariaethau datganoledig Deddf 2020, fodd bynnag, ni ellid gwneud hynny heb gydsyniad y gweinyddiaethau datganoledig.
Er nad oes rhwymedigaeth statudol ar Weinidogion Cymru i adrodd ar y defnydd o'r pwerau hyn, ymrwymodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (ar y pryd) i'r Senedd y byddai’n gwneud hynny.
Ochr yn ochr â'r pwerau yn Neddf 2020, mae ystod eang o ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â’r coronafeirws wedi'i gwneud gan ddefnyddio pwerau sy'n bodoli eisoes.
Mae datganiadau ysgrifenedig wedi'u cyhoeddi i roi gwybod i'r Aelodau am wneud deddfwriaeth allweddol sy'n ymwneud â’r coronafeirws, er enghraifft gwneud a diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Rhif 5) 2020 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 a hefyd ein bwriad i atal dros dro ddarpariaethau yn Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Atal Dros Dro: Gofal a Chymorth gan Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2021.
Er mwyn helpu i wella hygyrchedd cyfraith Cymru sy'n ymwneud â’r coronafeirws, mae’r is-ddeddfwriaeth a wnaed gan Weinidogion Cymru mewn ymateb i'r pandemig wedi'i chyhoeddi ar un dudalen[1] ar wefan LLYW.cymru ac mae offerynnau statudol hefyd yn parhau i gael eu cyhoeddi ar wefan legislation.gov.uk.
Deddfwriaeth sy'n gysylltiedig â'r coronafeirws
Mae'r tablau isod yn amlinellu:
· y defnydd o bwerau Gweinidogion Cymru o dan Ddeddf 2020 neu gadarnhad na ddefnyddiwyd yr un ohonynt (Tabl 1);
· statws y darpariaethau o dan Ddeddf 2020 (Tabl 2);
· yr holl is-ddeddfwriaeth berthnasol arall a wnaed (Tabl 3);
· y prif Reoliadau sy'n gysylltiedig â chyfyngiadau, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â theithio, a wnaed o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 (Tabl 3).
Tabl 1
Pwerau Gweinidogion Cymru o dan Ddeddf 2020
Darpariaeth Deddf 2020 |
Math o bŵer |
Disgrifiad o’r ddarpariaeth |
Gweithredu'r ddarpariaeth yn ystod y cyfnod adrodd |
Y statws ar ddiwedd y cyfnod adrodd |
Adran 3 Atodlen 2 |
Rheoliad |
Pŵer i ddiwygio Atodlen 2 mewn perthynas â'r trefniadau brys sy'n ymwneud ag ymarferwyr meddygol yng Nghymru. |
Ni fu’n ofynnol |
Wedi dod i ben |
Adran 15 a rhan 2 o Atodlen 12 |
Canllawiau |
Pŵer i Weinidogion Cymru (paragraff 35) ddyroddi canllawiau i awdurdodau lleol ar sut i ymgymryd â blaenoriaethu gwasanaethau o fewn y cyfnod brys, a'r pŵer i gyfarwyddo rhai awdurdodau lleol neu bob un i gydymffurfio â'r canllawiau. |
Canllawiau statudol wedi’u cyhoeddi ar wasanaethau cymdeithasol oedolion yn ystod y pandemig Covid-19 https://llyw.cymru/gwasanaethau-cymdeithasol-oedolion-yn-ystod-pandemig-covid-19-canllawiau. Cafodd adran 15 a Rhan 2 o Atodlen 12, i’r graddau y maent yn berthnasol i Gymru, eu hatal dros dro gan Weinidogion Cymru ar 22 Mawrth (Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Atal Dros Dro: Gofal a Chymorth gan Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2021) ac yna daethant i ben yn gynnar ar 1 Awst 2021 (Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Dod i Ben yn Gynnar: Gofal a Chymorth gan Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2021)
|
Nid yw’r canllawiau mewn grym mwyach |
Adran 33 |
Hysbysiadau |
Pŵer i ddyroddi hysbysiadau i addasu gofynion sy'n ymwneud â gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer gwaith mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a reoleiddir; |
Ni fu’n ofynnol
|
Ni fu’n ofynnol |
Adran 37 a Rhan 1 o Atodlen 16 |
Cyfarwyddyd
Canllawiau |
Pŵer i roi cyfarwyddyd "cau dros dro" i gyrff cyfrifol gan gynnwys perchnogion a chyrff llywodraethu sefydliadau, mewn perthynas ag ysgolion, darparwyr gofal plant cofrestredig a sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach yng Nghymru neu Loegr. Mae hefyd yn cynnwys pŵer i ddyroddi canllawiau. |
Ni fu’n ofynnol |
Ni fu’n ofynnol |
Adran 38 a Pharagraffau 1 a 2 o Atodlen 17 |
Cyfarwyddyd
Hysbysiad
Canllawiau |
Pŵer i wneud cyfarwyddydau mewn cysylltiad â rhedeg y systemau addysg, hyfforddiant a gofal plant cofrestredig yng Nghymru ("cyfarwyddyd parhad dros dro”). Mae hefyd yn cynnwys pŵer i ddyroddi hysbysiadau a chanllawiau. |
07/01/2021: Hysbysiad Addasu’r Cod Trefniadaeth Ysgolion (Cymru) 2021 10/02/2021: Hysbysiad Addasu’r Cod Trefniadaeth Ysgolion (Cymru) (Rhif 2) 2021 25/02/2021: Hysbysiad Addasu’r Cod Trefniadaeth Ysgolion (Cymru) (Rhif 3) 2021 05/01/2021: Hysbysiad addasu adran 3 o Ddeddf Addysg 1996 (Cymru) 2021 18/08/20: Hysbysiad Datgymhwyso Gofynion Newid Amserau Sesiynau Ysgolion (Cymru) (Rhif 2) 2020 29/09/20: Hysbysiad Datgymhwyso Gofynion Newid Amserau Sesiynau Ysgolion (Cymru) (Rhif 3) 2020 23/10/20: Hysbysiad Datgymhwyso Gofynion Newid Amserau Sesiynau Ysgolion (Cymru) (Rhif 4) 2020 24/11/20: Hysbysiad Datgymhwyso Gofynion Newid Amserau Sesiynau Ysgolion (Cymru) (Rhif 5) 2020 27/01/21: Hysbysiad Datgymhwyso Gofynion Newid Amserau Sesiynau Ysgolion (Cymru) 2021 25/02/21: Hysbysiad Datgymhwyso Gofynion Newid Amserau Sesiynau Ysgolion (Cymru) (Rhif 2) 2021 27/01/21: Hysbysiad Addasu Gofynion y Cwricwlwm yng Nghymru 2021 01/01/22: Hysbysiad Datgymhwyso Gofynion Newid Amserau Sesiynau Ysgolion (Cymru) (Rhif 7) 2021 01/02/22: Hysbysiad Datgymhwyso Gofynion Newid Amserau Sesiynau Ysgolion (Cymru) 2022 Ddim yn ofynnol ar gyfer gofal plant |
Daeth hysbysiadau i ben ar 23 Gorffennaf 2021 (ar ddiwedd y flwyddyn ysgol). Dyroddwyd dau hysbysiad pellach yn datgymhwyso rhannau o’r Rheoliadau Newid Amserau Sesiynau Ysgolion ym mis Ionawr a mis Chwefror ar gyfer hanner cyntaf tymor gwanwyn blwyddyn ysgol 2021-2022.
Mae’r ddarpariaeth yn Adran 38 wedi’i hestyn hyd at 24 Medi 2022[2].
Ddim yn ofynnol ar gyfer gofal plant |
Adran 51 ac Atodlen 21 |
Datganiad Dynodi swyddogion iechyd y cyhoedd Canllawiau i swyddogion iechyd y cyhoedd |
Pŵer i wneud datganiadau o fygythiad difrifol ac uniongyrchol mewn perthynas â Chymru ac i ddynodi swyddogion iechyd cyhoeddus i arfer pwerau yng Nghymru. |
Datganiad wedi’i wneud ar 17 Mawrth 2020[3] Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ddynodiadau swyddogion iechyd y cyhoedd Dim canllawiau |
Y datganiad yn parhau mewn grym
|
Adran 52 ac Atodlen 22 |
Cyfarwyddyd |
Pwerau i roi cyfarwyddydau sy'n ymwneud â digwyddiadau, cynulliadau a mangreoedd |
Ni fu’n ofynnol |
Ni fu’n ofynnol |
Adran 58 ac Atodlen 28 |
Cyfarwyddyd |
Pŵer i roi cyfarwyddydau i fynd i'r afael â diffyg capasiti mewn perthynas â chludo, storio a gwaredu cyrff marw |
Ni fu’n ofynnol[4] |
Ni fu’n ofynnol |
Adrannau 65 i 68 |
Rheoliad |
Pŵer i ohirio etholiadau awdurdodau lleol yng Nghymru ac i wneud darpariaeth atodol etc. bellach |
Rheoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Cymru) 2020 Rheoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Rhif 2) (Cymru) 2020 |
Mae’r OSau yn parhau mewn grym |
Adran 78 |
Rheoliad |
Pŵer mewn perthynas â chyfarfodydd awdurdodau lleol penodedig |
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) 2020 Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) (Diwygio) 2020 |
Mae’r OSau yn parhau mewn grym ond dim ond tan 30 Ebrill 2021 yr oedd y mwyafrif o’r darpariaethau’n gymwys a daeth rhai o’r darpariaethau i ben ar 30 Ebrill 2021. Mae darpariaethau parhaol, newydd wedi bod yn gymwys yng Nghymru ers 1 Mai 2021 yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) (Diwygio) 2021. |
Adran 81 ac Atodlen 29 |
Rheoliad |
Pŵer i ddiwygio Atodlen 29 ac unrhyw ddeddfiad ar gyfer darpariaeth atodol etc. sy'n ymwneud â gwarchodaeth rhag troi allan |
Roedd Rheoliadau Deddf y Coronafeirws (Tenantiaethau Sicr a Thenantiaethau Byrddaliadol Sicr, Estyn Cyfnodau Hysbysu) (Diwygio) (Cymru) 2020 yn estyn y cyfnod rhybudd tri mis yn Atodlen 29 ar gyfer tenantiaethau sicr (ac eithrio yn achos ymddygiad gwrthgymdeithasol) a thenantiaethau byrddaliadol sicr i 6 mis Ers y diweddariad diwethaf, estynnodd Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Tenantiaethau Preswyl: Estyn Cyfnod Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Rhif 3) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1064 (Cy. 251)) y “cyfnod perthnasol” hyd at 31 Rhagfyr 2021, ac estynnodd Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Tenantiaethau Preswyl: Estyn Cyfnod Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Rhif 4) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/708 (Cy. 178)) y “cyfnod perthnasol” ymhellach hyd at ddiwedd 24 Mawrth 2022. Cytunodd y Gweinidog i adael i Reoliadau Rhif 4 ddod i ben ar 24 Mawrth 2022.
|
Daeth yr OSau i ben ar 24 Mawrth 2022. |
Adran 82 |
Rheoliad |
Pŵer i newid y cyfnod perthnasol at ddibenion diogelu tenantiaethau busnes rhag darpariaeth fforffedu o dan y Ddeddf. |
Estynnodd Rheoliadau Tenantiaethau Busnes (Estyn Gwarchodaeth rhag Fforffediad etc.) (Cymru) (Coronafeirws) (Rhif 3) 2021 y “cyfnod perthnasol”. |
Mae adran 82 wedi’i hestyn hyd at 24 Medi 2022[5]. |
Adrannau 87 i 93 |
Rheoliad |
Pwerau mewn perthynas â chychwyn, pwerau i atal neu adfywio darpariaethau, pwerau i newid dyddiad dod i ben darpariaethau a phwerau eraill i wneud diwygiadau canlyniadol.
|
Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2020 - gwnaed: 26 Mawrth 2020 Mewn grym: adran 10, Rhan 1 o Atodlen 8, paragraffau 11, 12 a 13 o Atodlen 8 ac adran 15 a Rhan 2 o Atodlen 12 ar gyfer Cymru Daeth Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Newid Dyddiad Dod i Ben) (Cymru) 2022 i rym ar 23 Mawrth 2022. |
Mewn grym |
Tabl 2
Statws Deddf y Coronafeirws
Mae'r tabl hwn yn nodi statws darpariaethau yn Neddf y Coronafeirws 2020.
Ceir esboniadau pellach o ddiben ac effaith Deddf 2020 yn y rhan berthnasol o wefan Senedd y DU – https://services.parliament.uk/Bills/2019-21/coronavirus.html.
Mae Deddf 2020 hefyd yn gwneud darpariaeth, yn Rhan 2, ar gyfer galluogi "diffodd" darpariaethau Rhan 1 pan nad oes eu hangen. Un mecanwaith o'r fath yw'r cyfleuster ar gyfer atal dros dro ddarpariaethau sydd mewn grym ac yna eu hadfywio wedyn, pan fydd y digwyddiadau'n caniatáu hynny neu’n gofyn am hynny. Pan wneir Rheoliadau, neu orchmynion, o dan y pŵer hwn byddant ar gael ar wefan http://www.legislation.gov.uk/a byddant hefyd yn cael eu cynnwys ar wefan LLYW.cymru[6].
Bydd cynnwys a fformat y tabl yn cael eu hadolygu a'u diweddaru wrth i newidiadau ddigwydd.
Adran (i gyd yn Rhan 1) ac Atodlen |
Mesur |
Mewn Grym? (YDYW/NAC YDYW) Os ydyw, rhowch ddyddiad |
Wedi’i atal? (Y/N neu Amh) Os ydyw, rhowch ddyddiad |
Wedi’i adfywio? (Y/N neu Amh) Os ydyw, rhowch ddyddiad |
Dehongli |
||||
1 |
Ystyr 'coronafeirws' a therminoleg gysylltiedig |
Daeth i rym pan gafwyd y Cydsyniad Brenhinol |
Amh |
Amh |
Cofrestru brys ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol |
||||
2 At 1 |
Cofrestru brys ar gyfer nyrsys a gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol eraill |
Daeth i rym pan gafwyd y Cydsyniad Brenhinol |
Amh |
Amh |
3 At 2 |
Trefniadau argyfwng yn ymwneud ag ymarferwyr meddygol: Cymru. |
Wedi dod i ben |
N |
Amh |
Cofrestru gweithwyr cymdeithasol dros dro |
||||
6 At 5 |
Cofrestru brys ar gyfer gweithwyr cymdeithasol : Cymru a Lloegr |
Daeth i rym pan gafwyd y Cydsyniad Brenhinol |
N |
Amh |
Gwirfoddolwyr brys |
||||
8 At 7 |
Absenoldeb i wirfoddoli mewn argyfwng |
Diddymwyd gan Reoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Dod i Ben yn Gynnar) 2021/856 rheoliad 2(1)(a) – gwnaed ar 17 Gorffennaf 2021. Nid oedd y darpariaethau hyn erioed mewn grym. |
Amh |
Amh |
9 |
Iawndal i’r rhai sy’n gwirfoddoli mewn argyfwng |
Diddymwyd gan Reoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Dod i Ben yn Gynnar) 2021/856 rheoliad 2(1)(b) – gwnaed ar 17 Gorffennaf 2021. Nid oedd y darpariaethau hyn erioed mewn grym. |
Amh |
Amh |
Iechyd meddwl a galluedd meddyliol |
||||
10 At 8-11 |
Addasu deddfwriaeth iechyd meddwl a galluedd meddyliol dros dro |
Daeth adran 10(1) i rym ar 27 Mawrth 2020 mewn perthynas â Chymru yn unig[7] Daeth Atodlen 8 (paragraffau 1-2) i rym ar 27 Mawrth 2020 mewn perthynas â Chymru yn unig[8] Daeth Atodlen 8 (paragraff 11-13 yn unig) sy'n ymwneud â Thribiwnlys Iechyd Meddwl Cymru i rym ar 27 Mawrth 2020[9] Nid yw Atodlen 8 (paragraffau 3-10 a 14-16) mewn grym eto |
Daeth paragraffau 5, 6, 7, 8 ac 16 o Atodlen 8 i ben o ran Cymru a daeth adran 10 ac Atodlen 8 i gyd i ben mewn perthynas â Lloegr[10]. |
Amh |
Indemniad yn y gwasanaeth iechyd |
||||
11 |
Indemniad ar gyfer gweithgarwch yn y gwasanaeth iechyd: Cymru a Lloegr |
Daeth i rym pan gafwyd y Cydsyniad Brenhinol |
Amh |
Amh |
Gofal a chymorth y GIG ac awdurdodau lleol |
||||
15 At 12 |
Gofal a chymorth awdurdodau lleol
|
Daeth adran 15 (o ran Cymru) a Rhan 2 o Atodlen 12 (pwerau a dyletswyddau awdurdodau lleol yng Nghymru i rym ar 1 Ebrill 2020[11] Daeth i ben yn gynnar ar 1 Awst 2021[12] |
Hysbysiad o fwriad i atal dros dro ar 22 Mawrth 2021 a ddyroddwyd ar 19 Chwefror [13] |
N |
Cofrestru marwolaethau a marw-enedigaethau etc. |
||||
18 At 13 |
Cofrestru marwolaethau a marw-enedigaethau etc. |
Daeth i rym ar 26 Mawrth 2020[14] |
N |
Amh |
19 |
Dim angen tystysgrif feddygol gadarnhau ar gyfer amlosgi: Cymru a Lloegr |
Daeth i rym ar 26 Mawrth 2020[15] |
N |
Amh |
Pwerau ymchwilio |
||||
22 |
Penodi Comisiynwyr Barnwrol dros dro |
Daeth i rym pan gafwyd y Cydsyniad Brenhinol |
N |
Amh |
23 |
Terfynau amser mewn perthynas â gwarantau brys etc. o dan y Ddeddf Pwerau Ymchwilio |
Daeth i rym pan gafwyd y Cydsyniad Brenhinol |
N |
Amh |
Olion bysedd a phroffiliau DNA |
||||
24 |
Estyn terfynau amser ar gyfer cadw olion bysedd a phroffiliau DNA |
Diddymwyd gan Reoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Dod i Ben yn Gynnar) 2021/856 a wnaed ar 17 Gorffennaf 2021. |
N |
Amh |
Cyflenwad bwyd |
||||
25 |
Pŵer i fynnu gwybodaeth sy'n ymwneud â chadwyni cyflenwi bwyd |
Diddymwyd gan Reoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Dod i Ben yn Gynnar) 2021/856 a wnaed ar 17 Gorffennaf 2021. Nid oedd erioed mewn grym. |
N |
Amh |
26 |
Awdurdodau y gallai fod angen gwybodaeth arnynt |
Diddymwyd gan Reoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Dod i Ben yn Gynnar) 2021/856 a wnaed ar 17 Gorffennaf 2021. Nid oedd erioed mewn grym. |
N |
Amh |
27 |
Cyfyngiadau ar ddefnyddio a datgelu gwybodaeth |
Diddymwyd gan Reoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Dod i Ben yn Gynnar) 2021/856 a wnaed ar 17 Gorffennaf 2021. Nid oedd erioed mewn grym. |
N |
Amh |
28 At 15 |
Gorfodi gofyniad i ddarparu gwybodaeth |
Diddymwyd gan Reoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Dod i Ben yn Gynnar) 2021/856 a wnaed ar 17 Gorffennaf 2021. Nid oedd erioed mewn grym. |
N |
Amh |
29 |
Ystyr 'cadwyn cyflenwi bwyd' ac ymadroddion cysylltiedig |
Diddymwyd gan Reoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Dod i Ben yn Gynnar) 2021/856 a wnaed ar 17 Gorffennaf 2021. Nid oedd erioed mewn grym. |
N |
Amh |
Cwestau |
||||
30 |
Atal gofyniad i gynnal cwest gyda rheithgor: Cymru a Lloegr |
Daeth i rym pan gafwyd y Cydsyniad Brenhinol |
N |
Amh |
Datgelu: Cymru |
||||
33 |
Datgymhwyso etc. darpariaethau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Weinidogion Cymru |
Daeth i rym pan gafwyd y Cydsyniad Brenhinol |
N |
Amh |
Ysgolion, darparwyr gofal plant etc. |
||||
37 At 16 |
Cau dros dro sefydliadau addysgol a mangreoedd gofal plant |
Daeth i rym pan gafwyd y Cydsyniad Brenhinol |
N |
Amh |
38 At 17 |
Parhad dros dro: addysg, hyfforddiant a gofal plant |
Daeth i rym pan gafwyd y Cydsyniad Brenhinol |
N |
Mae’r ddarpariaeth wedi’i hestyn hyd at 24 Medi 2022[16] |
Tâl salwch statudol |
||||
39 |
Tâl salwch statudol: ariannu rhwymedigaethau cyflogwyr |
Daeth i rym pan gafwyd y Cydsyniad Brenhinol |
N |
Amh |
40 |
Tâl salwch statudol: pŵer i ddatgymhwyso cyfyngiad cyfnod aros |
Daeth i rym pan gafwyd y Cydsyniad Brenhinol |
N |
Amh |
41 |
Tâl salwch statudol: addasu pwerau i wneud rheoliadau |
Daeth i rym pan gafwyd y Cydsyniad Brenhinol |
N |
Amh |
Pensiynau |
||||
45 |
Cynlluniau pensiwn y GIG: atal cyfyngiadau ar ddychwelyd i weithio: Cymru a Lloegr |
Daeth i rym pan gafwyd y Cydsyniad Brenhinol |
Amh |
Amh |
Pŵer i atal dros dro weithrediadau porthladdoedd |
||||
50 At 20 |
Pŵer i atal dros dro weithrediadau porthladdoedd |
Daeth i rym pan gafwyd y Cydsyniad Brenhinol |
Amh |
Amh |
Pwerau’n ymwneud â phersonau a allai fod yn heintus |
||||
51 At 21 |
Pwerau’n ymwneud â phersonau a allai fod yn heintus |
Daeth i rym pan gafwyd y Cydsyniad Brenhinol |
Amh |
Amh |
Pwerau’n ymwneud â digwyddiadau, cynulliadau a mangreoedd |
||||
52 At 22 |
Pwerau i ddyroddi cyfarwyddydau sy'n ymwneud â digwyddiadau, cynulliadau a mangreoedd |
Daeth i rym pan gafwyd y Cydsyniad Brenhinol |
Amh |
Amh |
Llysoedd a Thribiwnlysoedd: defnyddio technoleg fideo a sain |
||||
53 At 23 |
Sicrhau bod mwy o gysylltiadau byw ar gael mewn achosion troseddol |
Daeth i rym pan gafwyd y Cydsyniad Brenhinol |
N |
Amh |
54 At 24 |
Sicrhau bod mwy o gysylltiadau byw ar gael mewn gwrandawiadau troseddol eraill |
Daeth i rym pan gafwyd y Cydsyniad Brenhinol |
N |
Amh |
55 At 25 |
Cyfranogiad y cyhoedd mewn achosion a gynhelir gan fideo neu sain |
Daeth i rym pan gafwyd y Cydsyniad Brenhinol |
N |
Amh |
56 At 26 |
Cysylltiadau byw mewn apeliadau llys ynadon yn erbyn gofynion neu gyfyngiadau a osodir ar berson a allai fod yn heintus |
Diddymwyd |
N |
Amh |
Pwerau mewn perthynas â chyrff |
||||
58 At 28 |
Pwerau ynglŷn â chludo, storio a gwaredu cyrff marw etc. |
Daeth i rym pan gafwyd y Cydsyniad Brenhinol |
N |
Amh |
Gohirio etholiadau: Cymru |
||||
65 |
Etholiadau i'w cynnal yng Nghymru mewn cyfnod ar ôl 15 Mawrth 2020 |
Daeth i rym pan gafwyd y Cydsyniad Brenhinol |
Amh |
Amh |
66 |
Gohirio etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer lleoedd gwag mewn etholaethau |
Daeth i rym pan gafwyd y Cydsyniad Brenhinol |
Amh |
Amh |
67 |
Pŵer i ohirio etholiadau awdurdodau lleol yng Nghymru ar gyfer lleoedd gwag achlysurol |
Daeth i rym pan gafwyd y Cydsyniad Brenhinol |
Amh |
Amh |
68 |
Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol etc. |
Daeth i rym pan gafwyd y Cydsyniad Brenhinol |
Amh |
Amh |
Gofynion gweinyddol eraill |
||||
71 |
Llofnodion Comisiynwyr y Trysorlys |
Diddymwyd gan Reoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Dod i Ben yn Gynnar) 2021/856 a wnaed ar 17 Gorffennaf 2021. |
N |
Amh |
Cyfraniadau Yswiriant Gwladol |
||||
72 |
Pŵer o dan adran 143 o Ddeddf Gweinyddu Nawdd Cymdeithasol 1992 |
Daeth i rym pan gafwyd y Cydsyniad Brenhinol |
Amh |
Amh |
73 |
Pŵer o dan adran 143 o Ddeddf Gweinyddu Nawdd Cymdeithasol 1992 |
Daeth i rym pan gafwyd y Cydsyniad Brenhinol |
Amh |
Amh |
74 |
Pŵer o dan adran 5 o Ddeddf Cyfraniadau Yswiriant Gwladol 2014 |
Daeth i rym pan gafwyd y Cydsyniad Brenhinol |
Amh |
Amh |
Cymorth ariannol i ddiwydiant |
||||
75 |
Datgymhwyso terfyn o dan adran 8 o Ddeddf Datblygu Diwydiannol 1982 |
Daeth i rym pan gafwyd y Cydsyniad Brenhinol |
Amh |
Amh |
Swyddogaethau Cyllid a Thollau EM |
||||
76 |
Swyddogaethau Cyllid a Thollau EM |
Daeth i rym pan gafwyd y Cydsyniad Brenhinol |
N |
Amh |
Uwchraddio credyd treth gwaith etc. |
||||
77 |
Uwchraddio credyd treth gwaith etc. |
Diddymwyd |
N |
Amh |
Cyfarfodydd awdurdodau lleol |
||||
78 |
Cyfarfodydd awdurdodau lleol |
Daeth i rym pan gafwyd y Cydsyniad Brenhinol |
N |
Amh |
Ardaloedd gwella busnes |
||||
79 |
Newid trefniadau ardaloedd gwella busnes: Lloegr |
Diddymwyd gan Reoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Dod i Ben yn Gynnar) 2021/856 a wnaed ar 17 Gorffennaf 2021. |
N |
Amh |
80 |
Newid trefniadau ardaloedd gwella busnes: Gogledd Iwerddon |
Daeth i rym pan gafwyd y Cydsyniad Brenhinol |
N |
Amh |
Tenantiaethau preswyl: gwarchodaeth rhag troi allan |
||||
81 At 29 |
Tenantiaethau preswyl yng Nghymru a Lloegr: gwarchodaeth rhag troi allan |
Daeth i rym pan gafwyd y Cydsyniad Brenhinol |
N |
Amh |
Tenantiaethau busnes: gwarchodaeth rhag fforffedu etc. |
||||
82 |
Tenantiaethau busnes yng Nghymru a Lloegr: gwarchodaeth rhag fforffedu etc. |
Daeth i rym pan gafwyd y Cydsyniad Brenhinol |
N |
Mae’r ddarpariaeth wedi’i hestyn hyd at 24 Medi 2022[17] |
83 |
Tenantiaethau busnes yng Ngogledd Iwerddon: gwarchodaeth rhag fforffedu etc. |
Daeth i rym pan gafwyd y Cydsyniad Brenhinol |
N |
Amh |
Synod Cyffredinol Eglwys Loegr |
||||
84 |
Gohirio etholiadau’r Synod Cyffredinol |
Diddymwyd gan Reoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Dod i Ben yn Gynnar) 2021/856 a wnaed ar 17 Gorffennaf 2021. |
N |
Amh |
Yr wybodaeth yn gywir ar 31 Mawrth 2022 |
Tabl 3
CRYNODEB O DDEDDFWRIAETH SY'N YMWNEUD Â’R CORONAFEIRWS A WNAED GAN WEINIDOGION CYMRU
Dyddiad yr adroddiad: 31 Mawrth 2022
Dyddiad gwnaed |
Math |
Teitl |
Deddf(au) galluogi |
|||
1. |
06/09/2021 |
Offeryn Statudol 2021 Rhif 996 (Cy. 232) |
Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) (Diwygio) 2021 |
Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 |
||
2. |
09/09/2021 |
Is-ddeddfwriaeth nad yw’n Offeryn Statudol (cyfeirnod: WG21-77) |
Cyfarwyddydau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol – Costau Mangre Cylchol yn ystod y Pandemig COVID-19) (Cymru) (Dirymu) 2021 |
Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 |
||
3. |
14/09/21 |
Offeryn Statudol 2021 Rhif 1042 (Cy. 244) |
Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Atal Dros Dro: Cludo, Storio a Gwaredu Cyrff Meirw etc.) (Cymru) 2021 |
Deddf y Coronafeirws 2020 |
||
4. |
19/09/21 |
Offeryn Statudol 2021 Rhif 1063 (Cy. 250) |
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Hysbysu) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021 |
Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 |
||
5. |
20/09/21 |
Offeryn Statudol 2021 Rhif 1064 (Cy. 251) |
Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Tenantiaethau Preswyl: Estyn Cyfnod Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Rhif 3) (Cymru) 2021 |
Deddf y Coronafeirws 2020 |
||
6. |
01/10/21 |
Offeryn Statudol 2021 Rhif 1109 (Cy. 265) |
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Atebolrwydd Gweithredwyr a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 3) 2021 |
Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 |
||
7. |
06/10/2021 |
Offeryn Statudol 2021 Rhif 1119 (Cy. 271) |
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2021 |
Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 |
||
8. |
08/10/2021 |
Offeryn Statudol 2021 Rhif 1126 (Cy. 273) |
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) 2021 |
Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 |
||
9. |
08/10/2021 |
Offeryn Statudol 2021 Rhif 1131 (Cy. 274) |
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 18) 2021 |
Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 |
||
10. |
20/10/21 |
Is-ddeddfwriaeth nad yw’n Offeryn Statudol (cyfeirnod: WG21-88) |
Cyfarwyddydau Cyfarwyddydau i Fyrddau Iechyd Lleol ynghylch y Datganiad ar Hawlogaethau Ariannol ar gyfer Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol (Diwygio) (Rhif 3) 2021 |
Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 |
||
11. |
29/10/21 |
Offeryn Statudol 2021 Rhif 1212 (Cy. 303) |
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Cyfyngiadau, Teithio Rhyngwladol, Hysbysu a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021 |
Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 |
||
12. |
09/11/21 |
Offeryn Statudol 2021 Rhif 1247 (Cy. 319) |
Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Diwygio) (Cymru) (Coronafeirws) (Rhif 2) 2021 |
Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000 |
||
13. |
09/11/21 |
Offeryn Statudol 2021 Rhif 1248 (Cy. 320) |
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 19) 2021 |
Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 |
||
14. |
19/11/21 |
Offeryn Statudol 2021 Rhif 1291 (Cy. 326) |
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021 |
Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 |
||
15. |
23/11/21 |
Offeryn Statudol 2021 Rhif 1306 (Cy. 335) |
Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Cymru) (Coronafeirws) (Dirymu) 2021 |
Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 |
||
16. |
26/11/21 |
Offeryn Statudol 2021 Rhif 1321 (Cy. 336) |
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2021 |
Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 |
||
17. |
26/11/21 |
Offeryn Statudol 2021 Rhif 1327 (Cy. 340) |
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) 2021 |
Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 |
||
18. |
26/11/21 |
Is-ddeddfwriaeth nad yw’n Offeryn Statudol (cyfeirnod: WG21-95) |
Cyfarwyddyd o dan baragraff 29 o Atodlen 22 i Ddeddf y Coronafeirws 2020 – mangre Cinema&Co. Swansea Ltd |
Deddf y Coronafeirws 2020 |
||
19. |
26/11/21 |
Is-ddeddfwriaeth nad yw’n Offeryn Statudol (cyfeirnod: WG21-96) |
Dynodiadau o dan baragraff 34 o Atodlen 22 i Ddeddf y Coronafeirws 2020 – mangre Cinema&Co. Swansea Ltd |
Deddf y Coronafeirws 2020 |
||
20. |
26/11/21 |
Offeryn Statudol 2021 Rhif 1329 (Cy. 342) |
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 14) 2021 |
Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 |
||
21. |
27/11/21 |
Offeryn Statudol 2021 Rhif 1330 (Cy. 343) |
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 15) 2021 |
Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 |
||
22. |
29/11/21 |
Offeryn Statudol 2021 Rhif 1342 (Cy. 346) |
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2021 |
Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 |
||
23. |
01/12/21 |
Offeryn Statudol 2021 Rhif 1354 (Cy. 352) |
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 16) 2021 |
Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 |
||
24. |
02/12/21 |
Offeryn Statudol 2021 Rhif 1363 (Cy. 358) |
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 21) 2021 |
Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 |
||
25. |
03/12/21 |
Is-ddeddfwriaeth nad yw’n Offeryn Statudol (cyfeirnod: WG21-97) |
Cyfarwyddydau Gofal Sylfaenol (Gwasanaethau wedi’u Contractio: Imiwneiddio) (Diwygio) 2021 |
Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 |
||
26. |
05/12/21 |
Offeryn Statudol 2021 Rhif 1366 (Cy. 361) |
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2021 |
Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 |
||
27. |
06/12/21 |
Offeryn Statudol 2021 Rhif 1369 (Cy. 362) |
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 4) 2021 |
Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 |
||
28. |
10/12/21 |
Offeryn Statudol 2021 Rhif 1407 (Cy. 366) |
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 22) 2021 |
Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 |
||
29. |
14/12/21 |
Offeryn Statudol 2021 Rhif 1433 (Cy. 371) |
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 5) 2021 |
Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 |
||
30. |
15/12/21 |
Offeryn Statudol 2021 Rhif 1456 (Cy. 372) |
Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Tenantiaethau Preswyl: Estyn Cyfnod Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Rhif 4) (Cymru) 2021 |
Deddf y Coronafeirws 2020 |
||
31. |
17/12/21 |
Offeryn Statudol 2021 Rhif 1468 (Cy. 376) |
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 23) 2021 |
Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 |
||
32. |
21/12/21 |
Offeryn Statudol 2021 Rhif 1476 (Cy. 378) |
Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2021 |
Deddf Addysg 1996 |
||
33. |
21/12/21 |
Offeryn Statudol 2021 Rhif 1477 (Cy. 379) |
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 24) 2021 |
Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 |
||
34. |
21/12/21 |
Is-ddeddfwriaeth nad yw’n Offeryn Statudol (cyfeirnod: WG21-100) |
Hysbysiad Datgymhwyso Gofynion Newid Amserau Sesiynau Ysgolion (Cymru) (Rhif 7) 2021 |
Deddf y Coronafeirws 2020 |
||
35. |
22/12/21 |
Offeryn Statudol 2021 Rhif 1485 (Cy. 386) |
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 25) 2021 |
Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 |
||
36. |
30/12/21 |
Offeryn Statudol 2021 Rhif 1490 (Cy. 390) |
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 26) 2021 |
Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 |
||
37. |
06/01/22 |
Offeryn Statudol 2022 Rhif 16 (Cy. 8) |
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2022 |
Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 |
||
38. |
14/01/22 |
Offeryn Statudol 2022 Rhif 39 (Cy. 16) |
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2022 |
Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 |
||
39. |
20/01/22 |
Offeryn Statudol 2022 Rhif 55 (Cy. 21) |
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2022 |
Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 |
||
40. |
26/01/22 |
Offeryn Statudol 2022 Rhif 75 (Cy. 27) |
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2022 |
Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 |
||
41. |
27/01/22 |
Offeryn Statudol 2022 Rhif 83 (Cy. 29) |
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2022 |
Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 |
||
42. |
28/01/22 |
Offeryn Anstatudol 2022 (cyfeirnod: WG22-03) |
Hysbysiad Datgymhwyso Gofynion Newid Amserau Sesiynau Ysgolion (Cymru) 2022 |
Deddf y Coronafeirws 2020 |
||
43. |
10/02/22
|
Offeryn Statudol 2022 Rhif 126 (Cy. 41) |
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2022 |
Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 |
||
44. |
16/02/22 |
Offeryn Statudol 2022 Rhif 142 (Cy. 45) |
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2022 |
Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 |
||
45. |
16/02/22 |
Offeryn Statudol 2022 Rhif 150 (Cy. 48) |
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2022 |
Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 |
||
46. |
23/02/22 |
Offeryn Statudol 2022 Rhif 178 (Cy. 58) |
Rheoliadau Llacio’r Gofynion Adrodd mewn Ysgolion (Cymru) (Coronafeirws) 2022 |
Deddf Addysg 1996 |
||
47. |
24/02/22 |
Offeryn Statudol 2022 Rhif 180 (Cy. 59) |
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2022 |
Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 |
||
48. |
16/03/22 |
Offeryn Statudol 2022 Rhif 315 (Cy. 83) |
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Atebolrwydd Gweithredwyr a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr etc.) (Cymru) (Dirymu) 2022 |
Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 |
||
49. |
21/03/22 |
Offeryn Statudol 2022 Rhif 348 (Cy. 86) |
Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Newid Dyddiad Dod i Ben) (Cymru) 2022 |
Deddf y Coronafeirws 2020 |
||
50. |
25/03/22 |
Offeryn Statudol 2022 Rhif 378 (Cy. 95) |
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2022 |
Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 |
||
51. |
25/03/22 |
Offeryn Statudol 2022 Rhif 388 (Cy. 97) |
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2022 |
Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 |
||
[4] Cafodd adran 58 ac Atodlen 28 eu hatal dros dro ar 24 Medi 2021 gan Reoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Atal Dros Dro: Cludo, Storio a Gwaredu Cyrff Meirw etc) (Cymru) 2021 (O.S.1042 (Cy. 244).
[10] Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Terfynu Darpariaethau Iechyd Meddwl) (Cymru a Lloegr) 2020/1467